Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (48)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiwn Brys (10 munud)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ledaeniad y firws Schmallenberg a’i oblygiadau ar gyfer diwydiant amaethyddol Cymru. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diwygio Lles (45 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Cronfa Twf Economaidd Cymru (30 munud) |
5. Dadl ar y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol Drafft (60 munud NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Dogfen Ategol Fframwaith Iechyd Rhyngwladol Drafft Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud toriadau o 8.4 y cant mewn termau real i GIG Cymru ac y gallai hyn lesteirio’i allu i greu mwy o gysylltiadau rhyngwladol a’u gwella. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â rhanbarthau a gwledydd y byd sy’n cyflawni’r canlyniadau iechyd gorau oll. Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey. |
6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru (60 munud)
NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’. Mae copi o’r adroddiad i’w weld drwy ddilyn y linc hwn: http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/ateb-yr-her-arwain-y-newid/ Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Gellir gweld adroddiad Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy fynd i: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/922/tudalen/58380 Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd. Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru’, sef bod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon. Gellir gweld ‘Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru’ drwy fynd i: http://www.equalityhumanrights.com/uploaded_files/Welsh/anatomy_4_pager-welsh.pdf
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012